Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2015
Amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb ar gyfer 2016 –
2017
1. Ar 29 Medi 2015, rhoddodd y Llywodraeth wybod i’r Pwyllgor Busnes ar ba ddyddiad y bydd cyllideb ddrafft y Llywodraeth yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad, ac ar ba ddyddiad y bydd y cynnig cyllideb blynyddol yn cael ei gyflwyno, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, mae’r Pwyllgor Busnes wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid ac wedi llunio’r amserlen a ganlyn ar gyfer ystyried y gyllideb ar gyfer 2016 – 2017:
|
Dyddiad
|
Cyllideb ddrafft y Llywodraeth yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad
|
8 Rhagfyr 2015 |
Y dyddiad cau i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth
|
2 Chwefror 2016 |
Y cynnig cyllideb blynyddol yn cael ei gyflwyno
|
1 Mawrth 2016 |